Ymgollwch mewn chwedlau o'r oesoedd yn Llambed. O fynyddoedd godidog i goedwigoedd ac afonydd gwyllt, lle gwell i gael ysbrydoliaeth ar gyfer eich astudiaethau? Wedi’i sefydlu ym 1822, cymerwch ysbrydoliaeth o’n hanes cyfoethog o 200 mlynedd o academia, a’i dalu ymlaen wrth ddysgu meddwl ffres, arloesol.
Dewch o hyd i'ch ffit yn Llambed. Mae ein campws yn amgylchedd cynhwysol, cefnogol ac anogol i fyw a dysgu ynddo. Yma, byddwch yn cwrdd â ffrindiau a fydd yn para am oes, yn rhoi cynnig ar hobïau newydd, yn ymuno â chymdeithasau rydych ond wedi breuddwydio amdanynt, ac yn ymgartrefu mewn tref lle byddwch yn teimlo fel rhywun lleol o'r diwrnod cyntaf.
Byddwch yn cael profiad mwy personol - dosbarthiadau bach a darlithoedd difyr, â digon o gyfranogaeth myfyrwyr, gan ganiatáu trafodaeth a gwell dealltwriaeth o'ch pwnc.
Byddwch yn dysgu gan bobl broffesiynol a fydd yn dysgu popeth sydd angen i chi ei wybod – y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ymgymryd â'r byd fel myfyriwr graddedig hynod gyflogadwy.
Gwareiddiad yr Henfyd, Hanes yr Henfyd, Anthropoleg, Archaeoleg, Astudiaethau Celtaidd, Astudiaethau Tsieineaidd, Y Clasuron, Gwareiddiad Clasurol, Gwrthdaro a Rhyfel, Ysgrifennu Creadigol, Treftadaeth, Hanes, Sefydliad y Dyniaethau, Datblygiad Rhyngwladol, Celfyddydau Rhyddfrydol, Astudiaethau Canoloesol, Athroniaeth, Astudiaethau Crefyddol, Sinoleg Cydanrhydedd
© Copyright University of Wales Trinity Saint David.
Registered Charity: No 1149535.
UWTSD Home | Accessibility Statement